top of page
Aberaeron harbour
Mae Gwesty'r Castell yng nghanol tref harbwr hardd Aberaeron yn cynnig croeso cynnes i chi yn y Bar a dewis o 8 ystafell wely en-suite gyfforddus

O dan berchnogaeth a rheolaeth newydd ers dechrau mis Medi 2023, mae perchnogion newydd Gwesty'r Castell, Kurt Forward a Megan Burges yn awyddus i groesawu cwsmeriaid hen a newydd i'w gwesty, bar a bwyty sy'n croesawu teuluoedd.

 

Mae Gwesty’r Castell, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, mewn lleoliad delfrydol ar gyfer mwynhau harbwr hyfryd Aberaeron, llwythi o siopau annibynnol lleol, bach a dau draeth Aberaeron - gyda thipyn o dywod ar Draeth y De pan fydd y llanw'n isel. Mae hefyd llawer o ardaloedd glan mÔr siopau a chefn gwlad i'w mwynhau. Mae Gwesty’r Castell gwta 2.5 milltir o Lanerchaeron – Fila Sioraidd, gain, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd â fferm fechan ynghlwm a llwybrau coetir tawel. Mae Gwesty’r Castell 7 milltir o dref glan môr Cei Newydd, lle gallwch eistedd ar y wal yr harbwr gyda physgod a sglodion a gwylio’r dolffiniaid, a dim ond 14 milltir o dref prifysgol Aberystwyth gyda’i siopau, promenâd a phier. Mae llawer o berlau cudd eraill yn yr ardal, megis traethau Llangrannog a thaith gerdded hyfryd drwy’r coetir i draeth Penbryn. Wrth gwrs, mae llawer iawn mwy o ardaloedd cyffrous a hardd i ymweld â nhw a'u mwynhau.

Mae bar y Gwesty yn yn croesawu cŵn, ac mae ystafelloedd yn y gwesty ar gael i bobl a hoffai ddod â'u ffrindiau pedair coes (sy'n ymddwyn yn dda). Gweinir brecwast i westeion Gwesty yn y bwyty, sydd hefyd ar gael i'w logi'n breifat, gyda chogydd personol a fydd yn darparu ar gyfer anghenion unigol.

rhywfaint o gefndir

Daeth Kurt a Megan i Aberaeron am y tro cyntaf yn 2016 ac maent wedi byw yma ers 2020. Er bod Kurt yn hanu o Napier yn Seland Newydd, cyfarfu ef a Megan yn Enniskillen, Gogledd Iwerddon pan, yn 17 oed symudodd i hyfforddi rygbi mewn ysgol ramadeg lleol. 

 

Mae Kurt a Megan yn gobeithio adlewyrchu diwylliant Cymreig a Seland Newydd yn y gwesty a’r bar, ac yn edrych 'mlaen at gystadleuaeth gyfeillgar rhwng y ddwy wlad, yn enwedig yn ystod y tymor rygbi! 

 

Dewch i ymweld, naill ai am wyliau, neu ddim ond diod yn y bar neu damaid i'w fwyta yn y bwyty. Gan ganolbwyntio ar gwrw a gwinoedd Cymreig, mae Kurt a Megan wedi cyflwyno ychydig o win a choffi o Seland Newydd. Byddwch yn sicr o groeso cynnes iawn!

Castle Hotel Bar
bottom of page